Llongyfarchiadau! Rwyt ti wedi cymryd y cam cyntaf at fod yn iachach drwy gofrestru ar gyfer y gampfa ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe. Ond nawr am y rhan anodd – cynnal cymhelliad. Os wyt ti’n newydd i ffitrwydd neu’n dychwelyd ar ôl cyfnod o seibiant, mae’n anodd cynnal cymhelliad. I’th gadw ar y llwybr cywir, rydym wedi llunio awgrymiadau gwych i’th ysbrydoli a’th gadw ar dy lwybr ffitrwydd.
Penna nodau realistig
Mae’n demtasiwn i bennu nodau uchelgeisiol ond dechreua gyda rhai y gelli di eu cyflawni er mwyn osgoi cael dy orlethu. Os wyt ti’n meddwl am redeg 5k, codi pwysau penodol, neu fynd i’r gampfa deirgwaith yr wythnos, bydd torri’r nodau i gamau hwylus yn cynnal dy gymhelliad.
Trefna dy sesiynau ymarfer corff
Mae cysondeb yn allweddol o ran ffitrwydd, felly dere o hyd i amserlen sy’n addas ar gyfer dy ffordd o fyw. Dylet ti drefnu amser ar gyfer dy sesiynau ymarfer corff er mwyn sicrhau dy fod yn glynu wrthynt.
Gwna amryw o bethau i osgoi diflastod
Mae gwneud yr un ymarfer corff bob tro’n hynod ddiflas. Cadwa bethau’n ddiddorol drwy roi cynnig ar ymarferion, dosbarthiadau neu gyfarpar gwahanol. Beth am roi cynnig ar un o’n dosbarthiadau Evolve? O sesiynau troelli i weithgareddau HIIT, mae cymysgu dy drefn arferol yn cadw pethau’n gyffrous a bydd yn herio dy gorff mewn ffyrdd newydd.
Olrhain dy gynnydd
Mae gweld gwelliant dros amser yn un o’r pethau gorau i’th gymell. Cadwa ddyddiadur neu defnyddia ap ffitrwydd i nodi dy sesiynau ymarfer corff, olrhain yr hyn rwyt ti’n gallu ei godi neu fonitro dy amserau rhedeg. Mae cadw cofnod o’th sesiynau ymarfer corff yn ffordd wych o’th atgoffa o ba mor bell rwyt ti wedi dod.
Buddsodda yn y dillad cywir
Mae teimlo’n gyfforddus yn dy ddillad ymarfer corff yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i’th hyder a’th berfformiad. Os yw’n bâr da o esgidiau ymarfer neu ddillad campfa cyfforddus, mae’n bwysig buddsoddi yn y pethau cywir.
Cofia ‘Pam’
Mae gan bawb reswm dros ymuno â’r gampfa – boed i wella dy iechyd cyffredinol, adeiladu cryfder, rhoi hwb i’th hyder neu ryddhau straen. Pan na fydd llawer o gymhelliad gen ti, atgoffa dy hun pam dechreuaist ti.
Paid â bod yn rhy galed arnat dy hun
Rai diwrnodau, bydd dy gymhelliad yn isel – ac mae hynny’n iawn! Y peth pwysig i’w gofio yw bod yn gyson a pheidio â gadael i sesiwn a gollwyd atal dy gynnydd.
Yn barod i guro dy nodau ffitrwydd?
Nid yw cynnal cymhelliad bob amser yn hawdd, ond gyda’r meddylfryd a’r cymorth cywir, gelli di droi dy ymweliadau â’r gampfa yn arfer sy’n para. Bydd yn gyson a mwynha dy daith!