Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Lôn Sgeti;
Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, Campfa Chwaraeon Abertawe, Canolfan Athletau a Hoci
Cyfeiriad:
Parc Chwaraeon Bae Abertawe
Lôn Sgeti
Abertawe
SA2 8QB
Sut i gyrraedd y lleoliad:
Wrth deithio i’r gorllewin ar yr M4, gadewch y draffordd wrth gyffordd 42 a dilynwch arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483 (Ffordd Fabian).
Wrth groesi Afon Tawe daw’r A483 yn A4067. Parhewch i’r gorllewin ar hyd y ffordd hon, gan basio Archfarchnad Sainsbury’s ar ochr chwith y ffordd. Ar ôl tua 2 filltir, trowch i’r dde ar Lôn Sgeti. Wrth deithio i fyny Lôn Sgeti (A4216), bydd caeau chwarae Parc Chwaraeon Bae Abertawe ar eich llaw chwith. Wrth y goleuadau traffig, trowch i’r chwith i’r cyfleusterau lle byddwch yn gweld maes parcio yn union o flaen y cyfleusterau.
Ty Fulton:
O fynedfa Tŷ Fulton, trowch i’r chwith, yna ar ôl 0.1 filltir, trowch i’r chwith eto. Ar ôl oddeutu 141 troedfedd, trowch i’r dde a cherddwch yn syth, gydag Ysbyty Singleton ar y dde. Ar ôl 0.2 filltir, trowch ychydig i’r chwith a byddwch yn cyrraedd y goleuadau traffig ar Lôn Sgeti (A4216). Bydd Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn syth o’ch blaen, gyda’r caeau chwarae i’r chwith. Wrth y goleuadau traffig, cerddwch mewn llinell syth i’r cyfleusterau lle byddwch yn gweld maes parcio a’r arwydd sy’n dweud Parc Chwaraeon Bae Abertawe.
Parcio
Parcio Talu ac Arddangos.
Cofrestredig (aelodath SBSP) | Heb gofrestru | |
Hyd at 2 Awr | £0.50c | £2.00 |
Hyd at 4 Awr | £1.00 | £4.00 |
Drwy’r Dydd | £6.00 | £6.00 |
Anogwyr | Amherthnasol | Amherthnasol |
Deiliaid Bathodyn Glas | Rhydd | Rhydd |
Campfa Campws Chwaraeon Bae Abertawe
Mae Campfa Campws Chwaraeon Bae Abertawe wedi’i lleoli yng nghanol Campws Bae Prifysgol Abertawe.
Cyfeiriad:
Campws Bae Prifysgol Abertawe
Ffordd Fabian
Twyni Crymlyn
Abertawe
SA1 8EN
Sut i gyrraedd y lleoliad:
Wrth deithio i’r gorllewin ar yr M4, gadewch y draffordd wrth gyffordd 42 a dilynwch arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483 (Ffordd Fabian). Mae Campws y Bae wedi’i leoli ar ochr chwith Ffordd Fabian ac mae’r brif fynedfa’n cael ei rheoli gan oleuadau traffig. Mae Maes Parcio i Ymwelwyr yn union i’r chwith o’r brif fynedfa. Mae cyfleuster Parcio a Theithio mawr wedi’i leoli ar Ffordd Fabian, sy’n bellter byr o Gampws y Bae.
Parcio
Os ydych yn cyrraedd mewn car i ymuno â’r sesiwn, defnyddiwch y maes parcio
ymwelwyr ar Gampws y Bae. Byddwch yn dod o hyd iddo yn syth ar yr ochr chwith wrth i
chi yrru i’r campws. Gweler y map ar y dudalen nesaf a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Ar ôl mynd i mewn i’r maes parcio ymwelwyr, defnyddiwch y peiriannau talu sydd ar
gael. Fel arall, gallwch dalu gan ddefnyddio’r system talu ar-lein.
Prisiau parcio:
Rhwng 8am a 4pm:
- £2.00 am 4 awr o adeg talu
- £3.50 am 24 awr
Ar ôl 4pm: - £2.00 (yn dod i ben am 8am y bore canlynol)
Os bydd maes parcio Ymwelwyr Campws y Bae yn llawn, efallai bydd yn rhaid i chi
ddefnyddio’r cyfleuster Parcio a Theithio ar Ffordd Fabian (SA1 8LD). Rhagor o fanylion
yma.
Sylwer, caiff y campws a’r Maes Parcio Ymwelwyr eu monitro gan system ANPR.
Bydd methu talu’r ffi gywir, neu os caiff car ei barcio yn rhywle arall ar y campws,
yn arwain at gyhoeddi hysbysiad o dâl parcio.