Wedi’i leoli ar Gampws y Bae, rydym yn gweddu â’r amgylchedd naturiol gan gynnwys ein caeau awyr agored ar hyd glan y traeth.
Cyfleusterau dan do ar gyfer hyfforddiant pwysau, cardio a dosbarthiadau, a’n Neuadd Chwaraeon yw’r lle perffaith i gymryd rhan mewn badminton, saethyddiaeth neu bêl-fasged.
Rydym yn cynnig amryw o opsiynau amser cinio, ar ôl gwaith neu benwythnosau i aelodau wneud y gorau o’n cyfleusterau ar adegau sy’n gyfleus iddynt.
Gyda’i offer pwysau amlbwrpas, mae gan ystafell bwysau Campws y Bae bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer sesiwn bwysau effeithiol. Gallwch hefyd redeg, beicio, rhwyfo neu wneud ymarfer-croes yn ein hystafell gardio. Yn ogystal â matiau ymestyn ac ambell beiriant pwysau ar gael ar hyd a lled y cyfleuster, cewch ymarfer cyflawn o gynhesu i oeri.
Mae ein cyfleuster Campws y Bae hefyd yn cynnwys ardaloedd gemau aml-ddefnydd (MUGAs) sy’n ddelfrydol ar gyfer pêl-droed hamdden, rygbi a chwaraeon pêl eraill.
P’un a ydych yn fyfyriwr, yn aelod o staff neu’n aelod o gymuned Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe, mae ein cyfleusterau ar Gampws y Bae yn gyfle perffaith i fod yn heini a chyrraedd eich nodau iechyd a ffitrwydd.
I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch a’ntim defnyddiol yma