Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn cydnabod pwysigrwydd ymarfer corff i iechyd a lles ac mae’n bleser gennym gynnig opsiynau aelodaeth i bobl ifanc 14 oed neu hŷn.
Dilynwch y broses isod wrth gofrestru am aelodaeth i bobl ifanc 14 ac 15 oed:
Os wyt ti rhwng 14 a 15 oed, gelli di ddod i’n campfeydd a’n dosbarthiadau am £2.50, ond bydd angen i ti gofrestru fel aelod Talu wrth Fynd yn gyntaf. I gael mynediad i’n cyfleusterau, rhaid i ti lenwi ffurflen gydsynio a bod yng nghwmni rhiant/gwarcheidwad.
Rhaid i dy riant/warcheidwad gofrestru fel aelod Talu wrth Fynd hefyd (mae prisiau’n dechrau o £3.90) neu ymaelodi am bris cystadleuol.
Sylwer bod angen i bobl ifanc 16 a 17 oed feddu ar aelodaeth gonsesiynol a darparu’r ffurflen cysyniad rhiant wedi’i llenwi, cyn dod i’r gampfa, ond gallan nhw ymweld â’r gampfa ar eu pennau eu hunain.
Cofiwch, os ydych chi’n rhiant neu’n warcheidwad, gallwch chi ymuno â Pharc Chwaraeon Bae Abertawe fel aelod Talu wrth Fynd a thalu cyn lleied â £2.50 pan fyddwch chi’n hyfforddi! Am ragor o wybodaeth am ein hopsiynau aelodaeth, gan gynnwys Talu wrth Fynd, cliciwch yma.
Rydym ni’n argymell yn gryf bod unrhyw un sy’n newydd i’r gampfa yn cwblhau sesiwn sefydlu lawn cyn defnyddio’r cyfarpar. I drefnu sesiwn sefydlu lawn, e-bostiwch neu ffoniwch y tîm ar 01792 513554.