Mynediad am Ddim i Barc Chwaraeon Bae Abertawe

Rydym ni’n cymryd rhan yn wythnos Agored y Loteri Genedlaethol i roi yn ôl a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud Pwll Cenedlaethol Cymru yn bosibl.

O 15 tan 23 Mawrth, gelli di gael mynediad am ddim at gyfleusterau Parc Chwaraeon Bae Abertawe os oes gennyt ti docyn loteri neu gerdyn crafu dilys. Gelli di ymarfer corff yn y gampfa neu nofio yn y pwll am ddim am wythnos yn unig.

Rhaid i ti gofrestru ar-lein fel defnyddiwr Talu Wrth Fynd cyn ymweld â’n cyfleusterau. Bydd hyn yn ein galluogi i dy sefydlu ar y system yn gyflymach pan fyddi di’n ymweld. Cer i’n gwefan i weld ein horiau agor.

Cofrestru fel defnyddiwr Talu Wrth Fynd

Darllen yr Amodau a Thelerau