Ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, rydym yn deall y cyffro o gyflawni eich nodau ffitrwydd. P’un a ydych chi’n codi pwysau, yn rhedeg lapiau, neu’n perffeithio eich serfiad tenis, mae’n demtasiwn meddwl bod mwy o hyfforddi yn arwain at well canlyniadau. Fodd bynnag, nid yw diwrnodau gorffwys yn arwydd o ddiogi – maent yn hanfodol i’ch taith ffitrwydd.
Dyma pam na ddylech chi byth eu hepgor:
1. Adfer a Thwf Cyhyrau
Pob tro y byddwch chi’n gwneud ymarfer corff, mae eich cyhyrau yn profi rhwygau bach. Mae’r rhwygau hyn yn cael eu hadfer wrth i chi orffwys, sy’n gwneud eich cyhyrau’n gryfach ac yn fwy hydwyth.
2. Atal Anafiadau o ganlyniad i Or-hyfforddi
Mae gwthio eich corff yn rheolaidd heb orffwys yn cynyddu’r risg o anafiadau o ganlyniad i orddefnydd, megis tendonitis neu dorasgwrn straen. Mae diwrnodau gorffwys yn caniatáu amser i’ch cymalau, eich ligamentau a’ch tendonau adfer, gan leihau’r siawns o anaf, gan eich cadw yn y gêm yn y tymor hir.
3. Rhoi hwb i’ch Perfformiad
Nid atal anafiadau yn unig yw pwrpas diwrnodau gorffwys – maen nhw hefyd yn eich gwneud yn gryfach. Mae eich cyflenwadau egni, yn benodol glycogen, yn cael eu hadnewyddu wrth i chi orffwys, gan sicrhau eich bod ar eich gorau ar gyfer eich sesiwn nesaf.
4. Ailosod Meddyliol
Mae ymarfer corff yn her feddyliol yn ogystal ag yn her gorfforol. Mae cymryd saib yn rhoi’r cyfle i chi ail-ganolbwyntio, lleihau straen ac osgoi gorflinder.
5. Cydbwyso eich Ffordd o Fyw
Mae ffitrwydd yn siwrnai, ond mae’n un rhan yn unig o’ch bywyd. Mae diwrnodau gorffwys yn rhoi amser i chi fwynhau gweithgareddau eraill, treulio amser gyda’ch anwyliaid, neu ymlacio.
Nid oes rhaid i ddiwrnod gorffwys olygu eistedd yn llonydd drwy’r dydd. Ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe rydym yn annog adferiad egnïol:
- Ioga neu Ymestyn: Beth am wella hyblygrwydd a chylchrediad drwy ymuno â dosbarth ioga neu wneud ychydig o ymestyniadau cymedrol?
- Nofio: Mae gweithgareddau dwysedd isel megis nofio yn helpu i gadw eich corff i symud heb orflino.
- Cerdded neu feicio hamddenol: Gall taith gerdded egnïol neu daith feicio hamddenol eich helpu i adfer wrth eich cadw’n actif ar yn pryd.
Hoffech chi gael arweiniad i greu’r amserlen ffitrwydd berffaith, gan gynnwys diwrnodau gorffwys? Siaradwch ag aelod o’r tîm a gall eich helpu i lunio cynllun cytbwys i chi gyflawni eich nodau ffitrwydd.