Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd, menter gyffrous a gefnogir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a byrddau iechyd lleol, yn anelu at ddatblygu arloesedd yn y sectorau gwyddorau bywyd, iechyd a chwaraeon er lles Cymru a thu hwnt. 

Mae’r rhwydwaith yn fan cydweithredol i sefydliadau yn y trydydd sector, darparwyr gofal iechyd, arloeswyr technoleg a phartneriaid eraill ddod at ei gilydd, rhannu arbenigedd a datblygu atebion effeithiol i wella iechyd y cyhoedd a chefnogi poblogaethau sy’n agored i niwed. Trwy gysylltu technoleg chwaraeon, technoleg feddygol a gofal iechyd, mae’r rhwydwaith yn helpu partneriaid i rannu adnoddau a gwybodaeth, gan greu cyfleoedd newydd i fynd i’r afael â materion iechyd allweddol sy’n wynebu ein cymunedau. 

Gyda chefnogaeth arwr rygbi Alun Wyn Jones, mae’r rhwydwaith yn dod â’r byd academaidd, diwydiant, a’r GIG ynghyd i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn a meithrin arloesedd. Mae’r fenter hon yn cyd-fynd â gweledigaeth Prifysgol Abertawe ac amcan ARCH i feithrin ranbarth Bae Abertawe iachach a mwy gwydn, gan yrru iechyd cymunedol, twf economaidd a lles hirdymor. 

Rhagor o wybodaeth am ymuno â’r Rhwydwaith