Chwalu mythau ffitrwydd cyffredin

Myth 1: “Bydd Codi Pwysau yn eich Gwneud yn Fawr”

Chwalu’r myth: Mae adeiladu màs y cyhyrau yn cymryd amser a hyfforddiant penodol. Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, ni fydd codi pwysau ychydig o weithiau’r wythnos yn arwain at edrychiad ‘swmpus’. Mae codi pwysau yn un o’r ffyrdd gorau o wella cryfder, metaboledd a ffyrfhau cyhyrau.

Myth 2: “Cardio yw’r unig ffordd o losgi braster”

Chwalu’r myth: Mae codi pwysau’r un mor effeithiol ar gyfer llosgi braster. Er bod cardio’n llosgi calorïau, mae codi pwysau’n adeiladu cyhyrau, sy’n rhoi hwb i’ch metaboledd ac yn eich helpu i losgi calorïau hyd yn oed wrth orffwys. Cydbwysedd o sesiynau cardio a chodi pwysau sydd orau i losgi braster.

Myth 3: “Dim Poen, Dim Cynnydd”

Chwalu’r myth: Nid yw poen yn angenrheidiol er mwyn gweld cynnydd. Mae teimlo’n boenus neu wedi’ch herio yn normal, ond nid yw teimlo poen miniog. Ni ddylai sesiwn ffitrwydd gynnwys anaf; gwrandewch ar eich corff a chanolbwyntio ar eich ystum a chynnydd graddol.

Myth 4: “Mae angen i chi dreulio oriau yn y Gampfa i weld canlyniadau”

Chwalu’r myth: Mae cysondeb yn bwysicach na sesiynau hir. Gall sesiynau byr, pwrpasol fod yr un mor effeithiol â sesiynau hir. Mae llawer o bobl yn gweld canlyniadau ardderchog o sesiynau 30-45 munud os ydynt yn gyson ac yn effeithlon yn eu sesiynau.

Myth 5: “Gallwch dargedu llosgi braster mewn mannau penodol”

Chwalu’r myth: Mae lleihau braster mewn un man yn myth. Mae’r corff yn llosgi braster yn gyffredinol, nid o un man penodol yn unig.

Myth 6: “Bydd gwasgfeydd ac eisteddiadau’n rhoi pecyn chwech i chi!

Chwalu’r myth: Caiff pecyn chwech ei greu yn y gegin. Gall ymarferion y craidd gryfhau cyhyrau’r abdomen, ond daw abs gweledol o leihau braster cyffredinol y corff. Canolbwyntiwch ar sesiynau ffitrwydd sy’n gweithio’r corff cyfan, a diet cytbwys i gyflawni edrychiad main.

Myth 7: “Yr amser gorau i hyfforddi yw yn y bore”

Chwalu’r myth: Yr amser gorau yw pryd bynnag y gallwch fod yn gyson. Yr hyn sydd bwysicaf yw dod o hyd i amser sy’n gyfleus yn eich trefn ddyddiol fel bod mwy o siawns i chi lynu wrtho.

Myth 8: “Mae’n rhaid i chi wneud sesiynau dwys er mwyn gweld canlyniadau”

Chwalu’r myth: Nid oes yn rhaid i bob sesiwn fod o ddwysedd uchel. Gall ymarferion dwysedd isel megis cerdded, ymestyn ac ioga chwarae rôl enfawr mewn ffitrwydd drwy hyrwyddo hyblygrwydd, lleihau straen a helpu adferiad.

Myth 9: “Mae chwysu fwy yn golygu eich bod yn llosgi mwy o galorïau”

Chwalu’r myth: Nid yw lefelau chwys yn adlewyrchu llosgi calorïau. Mae rhai pobl yn naturiol yn chwysu mwy nag eraill, a gall ffactorau megis lleithder wneud i chi chwysu’n fwy.

Myth 10: “dylech osgoi carbohydradau i golli pwysau”

Chwalu’r myth: Mae carbohydradau’n ffynhonnell egni bwysig. Mae carbohydradau’n darparu egni ar gyfer sesiynau ffitrwydd a gweithgarwch dyddiol. Yr allwedd yw dewis carbohydradau sy’n llawn maeth, megis grawn cyflawn, ffrwythau a llysiau, a’u cydbwyso â phrotein a braster.

Myth 11: “Mae angen i chi dreulio oriau yn y Gampfa i weld canlyniadau”

Chwalu’r myth: Mae cysondeb yn bwysicach na sesiynau hir. Gall sesiynau byr, pwrpasol fod yr un mor effeithiol â sesiynau hir. Mae llawer o bobl yn gweld canlyniadau ardderchog o sesiynau 30-45 munud os ydynt yn gyson ac yn effeithlon yn eu sesiynau.


Ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, rydym yn angerddol am eichhelpu i gyflawni’ch nodau drwy ganolbwyntio ar strategaethau a gefnogir gan wyddoniaeth ac osgoi’r mythau cyffredin hyn. Wrth feddu ar yr wybodaeth gywir, gallwch adeiladu trefn ffitrwydd sy’n effeithiol, yn bleserus ac yn gynaliadwy.