Mae dechrau yn y brifysgol yn gyfnod cyffrous, ond sy’n achosi gofid, ym mywyd unrhyw un. Ymhlith y cyffro o symud i breswylfa, cwrdd â phobl newydd, a mynd i’r afael â’ch cwrs, mae un digwyddiad amlwg yn ddechreuad answyddogol i’ch profiad yn y brifysgol: Ffair y Glas. Y digwyddiad blynyddol hwn yw eich porth i bopeth sydd gan fywyd Prifysgol Abertawe i’w gynnig y tu allan i’r ystafell ddosbarth. P’un a ydych chi’n awyddus i ymuno â thîm chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, dechrau hobi newydd, neu gasglu cynifer o bethau am ddim â phosibl, mae gan Ffair y Glas rywbeth at ddant pawb. Dyma sut i wneud y gorau ohoni.

Beth yw Ffair y Glas?

Mae Ffair y Glas yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir gan Brifysgol Abertawe a phrifysgolion eraill ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Ei nod yw cyflwyno myfyrwyr newydd – “glasfyfyrwyr” – i’r amrywiaeth eang o glybiau, cymdeithasau a gwasanaethau sydd ar gael ar ein campysau. Dychmygwch farchnad brysur lle mae pob stondin yn cynrychioli grŵp myfyrwyr neu dîm chwaraeon gwahanol. Mae’r egni yn heintus, ac mae’n gyfle perffaith i archwilio eich diddordebau ac efallai hyd yn oed ddarganfod rhai newydd!

Paratoi am y Diwrnod

  1. Gwnewch eich Ymchwil: Cyn y digwyddiad, mae’n syniad da edrych ar wefan Undeb y Myfyrwyr neu ei dudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael syniad o’r clybiau a’r cymdeithasau a fydd yno. Fel hyn, gallwch flaenoriaethu’r rhai y mae gennych ddiddordeb mwyaf mewn ymweld â nhw.
  2. Gwisgwch yn gyfforddus: Gall Ffair y Glas fod yn ddiwrnod hir o gerdded o gwmpas a sgwrsio â phobl, felly gwisgwch rywbeth cyfforddus. Mae gwarbac hefyd yn ddefnyddiol i gario’r holl anrhegion a thaflenni y byddwch siŵr o fod yn eu casglu – efallai byddwch yn ddigon ffodus i gasglu nwyddau brand gan Barc Chwaraeon Bae Abertawe!
  3. Dewch â ffrind: Os ydych chi’n teimlo wedi’ch llethu, dewch â chyd-letywr neu gyd-fyfyriwr gyda chi. Mae bob amser yn braf cael rhywun i rannu’r profiad ac i gyfnewid syniadau ag ef wrth i chi archwilio’r holl stondinau gwahanol.

Beth i’w ddisgwyl

  1. Stondinau Cymdeithasau a Chlybiau: Y prif atyniad yn Ffair y Glas yw’r amrywiaeth o gymdeithasau a chlybiau. P’un a ydych chi’n hoff o chwaraeon, y celfyddydau, gemio, gwleidyddiaeth, neu rywbeth mwy arbenigol, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i rywbeth sy’n ennyn eich diddordeb. Peidiwch â bod ofn sgwrsio â chynrychiolwyr undeb y myfyrwyr – maen nhw fel arfer yn fyfyrwyr yn union fel chi, yn awyddus i recriwtio aelodau newydd.
  2. Busnesau Lleol a Phethau am Ddim: Ochr yn ochr â’r grwpiau myfyrwyr, mae busnesau lleol yn cynnal stondinau sy’n cynnig popeth o samplau bwyd i dalebau disgownt. Dyma ffordd wych o ddarganfod bwytai, siopau a gwasanaethau lleol. Pwy sydd ddim yn dwlu ar bethau am ddim? Peidiwch â gadael i’r anrhegion hyn dynnu eich sylw oddi wrth y prif nod: dod o hyd i weithgareddau a chymunedau a fydd yn gwella eich bywyd yn y brifysgol.
  3. Cystadlaethau ac Anrhegion: Mae llawer o stondinau yn cynnal cystadlaethau neu’n cynnig anrhegion, ac mae’r gwobrau’n amrywio o dalebau i declynnau. Efallai y gwelwch olwyn liwgar yn rhywle… Rhowch gynnig ar gynifer ohonynt ag y gallwch – pwy a ŵyr, efallai y byddwch chi’n ennill rhywbeth cŵl!

Sut i wneud y gorau ohoni

  1. Cofrestrwch, ond peidiwch ag ymrwymo i ormod: Mae’n hawdd mynd dros ben llestri yn y cyffro a chofrestru ar gyfer popeth. Er ei bod yn wych bod yn frwdfrydig, cofiwch faint o amser sydd gennych mewn wythnos mewn gwrionedd. Rhaid blaenoriaethu’r cymdeithasau a’r clybiau sydd o wir ddiddordeb i chi a chofiwch y gallwch chi bob amser ymaelodi â mwy ohonynt nes ymlaen.
  2. Gofynnwch Gwestiynau: Gofynnwch i stondinwyr am yr hyn y mae eu cymdeithas neu eu clwb yn ei wneud mewn gwirionedd. Pa mor aml maen nhw’n cwrdd? Pa fath o ddigwyddiadau maen nhw’n eu trefnu? Beth yw’r tâl aelodaeth? Bydd cael yr wybodaeth hon ymlaen llaw yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus. Rydym hefyd yn argymell gofyn neu chwilio am gyfrifon y clybiau yn y cyfryngau cymdeithasol oherwydd y byddant yn brysur iawn yn lanlwytho cynnwys yn ystod wythnos y Glas.
  3. Rhwydweithiwch a Chymdeithaswch: Mae Ffair y Glas hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl. Boed yn lasfyfyrwyr eraill neu’n arweinwyr cymdeithasau, drwy feithrin cysylltiadau yn gynnar gallwch gyfoethogi eich profiad yn y brifysgol. Byddwch yn agored i ddechrau sgyrsiau – mae pawb yn yr un cwch, yn gobeithio gwneud ffrindiau a chymryd rhan.

Ar ôl y Ffair: Y Camau Nesaf

Ar ôl i Ffair y Glas ddod i ben, cymerwch amser i fynd drwy’r holl daflenni a gwybodaeth rydych chi wedi’u casglu. Dylech chi flaenoriaethu’r cymdeithasau a’r clybiau a wnaeth argraff dda arnoch  chi ac ystyried mynd i’r cyfarfodydd cyntaf neu sesiynau rhagflas. Mae’r digwyddiadau cychwynnol hyn yn ffordd wych o gael blas ar y grŵp cyn ymrwymo’n llawn.

Mae Ffair y Glas yn fwy na diwrnod allan llawn hwyl — dyma’ch cam mawr cyntaf i fywyd prifysgol y tu hwnt i’r darlithfeydd. Gydag ychydig o waith paratoi a meddwl agored, gall fod yn ddechrau rhai o’ch profiadau mwyaf cofiadwy yn y brifysgol. Felly, ewch amdani, archwiliwch bopeth sydd ar gael, ac yn bwysicaf oll, joiwch!

Os ydych yn ymuno â Phrifysgol Abertawe ac os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o’r gampfa, mae aelodaeth o’r gampfa’n costio £16 y mis yn unig i fyfyrwyr.