Os ydych chi erioed wedi ceisio gorfodi eich hun i ddilyn trefn campfa dim ond i ddarganfod ei bod yn teimlo’n fwy fel baich na hwyl neu foddhad, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Nid yw’r gampfa, gyda’i rhesi o offer, cerddoriaeth uchel, a chwys, at ddant pawb. A ‘chi’n gwybod beth? Mae hynny’n berffaith iawn. Yn ffodus i chi, mae gennym ddigon o opsiynau ar gael i’ch galluogi i ddod o hyd i rywbeth sy’n iawn i chi. Darllenwch ymlaen i ddarganfod rhagor!

1. Y myth ffitrwydd “un ateb i bawb”

Rydyn ni’n byw mewn byd lle mae’r gampfa yn aml yn cael ei hawgrymu fel yr ateb gorau ar gyfer ffitrwydd. Fodd bynnag, gall y safbwynt hwn fod yn gyfyngol. Nid oes un ateb i bawb o ran ffitrwydd; mae’n hynod bersonol a dylai gyd-fynd â’ch diddordebau, eich ffordd o fyw a’ch personoliaeth. Os nad yw’r syniad o dreulio oriau ar felin draed neu godi pwysau yn apelio atoch chi, dyw hynny ddim yn fethiant ar eich rhan chi – mae’n arwydd y gallai fod angen dilyn eich taith ffitrwydd mewn mannau eraill. Fodd bynnag, mae ein dosbarthiadau Evolve yn ddelfrydol os ydych chi’n chwilio am opsiynau cyflym a hwyl i ryddhau endorffinau. Mewn llai nag awr gallwch losgi calorïau, torri chwys a chael sesiwn ymarfer corff da gyda ffrindiau, neu gwrdd â ffrindiau newydd yn y dosbarth!

2. Archwilio mathau eraill o ymarfer corff

Nid yw’r ffaith nad yw’r gampfa yn mynd â’ch bryd chi’n golygu y byddwch chi’n dilyn ffordd o fyw eisteddog. Mae byd cyfan o weithgareddau corfforol lle nad oes angen i chi fod yn aelod o gampfa. Dyma ychydig o ddewisiadau amgen:

  • Gweithgareddau awyr agored: Gall heicio, beicio, ceufadu, neu hyd yn oed taith gerdded syml yn y parc (neu ar hyd ein traeth preifat ar Gampws y Bae!) fod yn ffyrdd bywiog o gadw’n heini. Mae natur yn darparu amgylchedd sy’n newid yn gyson sy’n apelio at eich synhwyrau ac yn gwneud i ymarfer corff deimlo’n llai fel baich. Mae llawer o’n cyfleusterau yn yr awyr agored. Gallwch chi chwarae yn ein cyrtiau pêl-fasged, ymarfer eich cic droed chwith yn yr ardaloedd gemau amlddefnydd ar Gampws y Bae, neu sbrintio ar hyd y trac athletau. Bydd gennych ddigon o ddewis o ffyrdd o ymarfer corff yn yr awyr agored ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe.
  • Ymarfer corff gartref: Gyda chynnydd platfformau ffitrwydd ar-lein, gallwch nawr gael mynediad at sesiynau ioga, Pilates, dawns a hyfforddiant cryfder o gysur eich ystafell fyw. Er ein bod yn cynnig ein sesiynau cyfannol poblogaidd iawn yn y Parc Chwaraeon, rydym yn gwerthfawrogi bod ymarfer corff gartref yn cynnig hyblygrwydd a chyfleustra, gan eich galluogi i drefnu ymarfer corff yn eich amserlen heb gymudo i’r gampfa. Wyddech chi y gallwch gysylltu ag aelod o dîm y Parc Chwaraeon am raglen ffitrwydd am ddim? Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, ac os gallai eich helpu i ymarfer corff gartref, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw!
  • Gweithgaredd chwaraeon a grwpiau: Gall ymuno â chynghrair chwaraeon lleol, dosbarth crefft ymladd, neu grŵp dawns droi ymarfer corff yn ddigwyddiad cymdeithasol, gan ei wneud yn rhywbeth rydych chi’n edrych ymlaen ato yn hytrach na phoeni amdano. Os ydych chi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, mae Chwaraeon Abertawe yn cynnig sawl aelodaeth wahanol y gallwch chi fanteisio arnynt arni. Eleni, cynhelir Ffair y Glas ar 25 a 26 Medi, lle bydd cyfle perffaith i chi alw heibio a sgwrsio â chlybiau a chymdeithasau am yr holl bethau chwaraeon cyffrous!
  • Ymarfer y corff a’r meddwl: Mae ioga, tai chi, ac ymarferion eraill sy’n ymwneud â’r corff a’r meddwl yn canolbwyntio ar les corfforol a meddyliol. Gall yr arferion hyn fod yn arbennig o ddeniadol os ydych chi’n chwilio am fath o ymarfer corff sy’n lleihau straen ac yn gwella ymwybyddiaeth ofalgar.

3. Pwysigrwydd mwynhau ymarfer corff

Un o’r ffactorau pwysicaf wrth gynnal trefn ffitrwydd gyson yw mwynhau. Os nad ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi’n ei wneud, mae’n annhebygol y byddwch chi’n cadw ato. Yr hyn sy’n allweddol yw dod o hyd i rywbeth rydych chi wir yn ei fwynhau. Pan fydd ymarfer corff yn teimlo’n hwyl, mae’n dod yn llai o dasg ac yn fwy o wobr – ffordd o ddathlu’r hyn y gall eich corff ei gyflawni. Mae pawb yn wahanol, rydyn ni’n deall hynny, ond argymhelliad gennym ni ar gyfer cynyddu mwynhad wrth ymarfer corff yw dod o hyd i restr o ganeuon rydych chi’n dwlu arni ac sy’n eich helpu chi i wneud eich gorau glas!

4. Gwrando ar eich corff a’ch meddwl

Mae’n hawdd cael ein dal gan yr hyn rydyn ni’n meddwl y “dylen” ni fod yn ei wneud, yn enwedig os oes llif cyson o hunluniau yn y gampfa a dylanwadwyr ffitrwydd yn y cyfryngau cymdeithasol. Ond dylai eich trefn ffitrwydd fod yn seiliedig arnoch chi – eich corff chi, eich anghenion chi, eich dewisiadau chi. Os ydych chi’n gweld bod amgylchedd y gampfa yn gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, dan straen neu’n ddi-hyder, mae’n werth archwilio llwybrau eraill. Gwrandewch ar eich corff a’ch meddwl, a pheidiwch â bod ofn rhoi’r gorau i’r hyn sy’n gonfensiynol.

5. Ailddiffinio llwyddiant ffitrwydd

Nid yw llwyddiant mewn ffitrwydd yn ymwneud â chydymffurfio â safon benodol – mae’n ymwneud â dod o hyd i’r hyn sy’n gwneud i chi deimlo’n gryf, yn iach, ac yn hapus. Boed yn codi pwysau, yn ymarfer ioga, neu’n cymryd teithiau cerdded hir gyda’ch ci, mae hynny i gyd yn ddilys. Mae’r gampfa’n un adnodd ymhlith llawer, ac os nad yw’n cyd-fynd â’ch ffordd o fyw, nid yw’n adlewyrchiad o’ch ymrwymiad i iechyd.

6. Creu trefn sy’n gweithio i chi

Heb y gampfa, gallai creu trefn ymddangos yn llethol, ond mae’n ymwneud â chysondeb a gwneud newidiadau bach, cynaliadwy. Dylech chi bennu nodau realistig, dod o hyd i weithgareddau sy’n eich cyffroi chi, a chofio bod cynnydd yn cymryd amser. Does dim rhaid i’ch trefn fod yn berffaith; mae’n rhaid iddi fod yn rhywbeth y gallwch ymrwymo iddi a’i mwynhau.

Cofiwch!!

Mae ffitrwydd yn ymwneud â mwy na’r gampfa. Os nad yw’r gampfa’n mynd â’ch bryd chi, derbyniwch hynny a dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi. Mae ffitrwydd yn daith, nid yn gyrchfan, ac mae llwybrau di-rif ar gael. Y peth pwysicaf yw eich bod chi’n symud mewn ffordd sy’n teimlo’n iawn i chi, yn gorfforol ac yn feddyliol. Felly, os nad yw’r gampfa’n apelio atoch chi, peidiwch â theimlo’n euog, archwiliwch eich opsiynau, a byddwch lawen wrth gadw’n heini!

Archwiliwch ein cyfleusterau:

Campws y Bae – Parc Chwaraeon Bae Abertawe

Y Neuadd Chwaraeon a’r Cyrtiau – Parc Chwaraeon Bae Abertawe

Hoci ac Athletau – Parc Chwaraeon Bae Abertawe

Y Caeau Chwarae – Parc Chwaraeon Bae Abertawe