Annwyl Gwsmeriaid,
Fel rhan o’n gwaith gwelliant parhaus yma ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, bydd gwaith yn cael ei gyflawni ar y system hydrolig sy’n rheoli’r llawr symudol. Mae’r hyblygrwydd y mae’r llawr yn ei gynnig i ni yn golygu y gallwn gynnal amrywiaeth eang o weithgareddau, felly mae’r gwaith hwn yn hanfodol. Fodd bynnag, mae’n golygu na allwn ddefnyddio rhan 23m y pwll, a hynny pan fo’r pwll wedi’i ymestyn i’r 50m llawn na phan fo’r pwll wedi’i rannu, nes bydd y gwaith wedi ei gwblhau.
Bydd y gwaith yn dechrau ar 29 Awst, a disgwylir i’r gwaith gymryd tuag wythnos i’w gyflawni. Bydd y pwll nofio’n ôl yn weithredol cyn gynted â phosib wedi hynny.
Rhag tarfu’n ormodol ar ein cwsmeriaid, rydym wedi ychwanegu amseroedd a lonydd ychwanegol ar gyfer nofio cyhoeddus, a hynny yn y rhan 25m ac yn y Pwll Hyfforddi, nes bod y rhan 23m yn ailagor.
Yn ogystal, byddwn yn cynnal profion ar ddydd Mercher 30 Awst, fel rhan o’n hymdrechion i fod yn fwy cynaliadwy wrth weithredu’n cyfleuster. Felly, ar y diwrnod hwnnw’n unig, bydd y pwll ar gau rhwng 09.30 a 16.00. Bydd trefniadau mynediad gwahanol yn eu lle ar gyfer cwsmeriaid y gampfa.
Byddwn yn diweddaru’r amserlen o wythnos nesaf ymlaen, ac yn ôl yr arfer, awgrymwn eich bod yn edrych ar yr amserlen cyn eich bod yn dod yma i nofio. Mae’r trefniadau hyn oll yn cydymffurfio â’n telerau ac amodau, felly ni fydd estyniadau nac ad-daliadau yn cael eu rhoi.
Oriau Agor – Parc Chwaraeon Bae Abertawe
Os oes gennych wersi nofio y mae hyn yn effeithio arnynt, rydym wedi cysylltu â chi’n uniongyrchol i roi gwybod i chi beth sy’n digwydd.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir tra bod y gwaith uwchraddio hanfodol hwn yn cael ei gyflawni.