Chwilio am ffyrdd i gadw’n heini ac yn iach wrth astudio? Dyma rai ffyrdd i ddechrau arni…
Ymunwch â thîm chwaraeon
Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe’n gartref i Chwaraeon Abertawe, sy’n cynnwys dros 50 o dimau chwaraeon gwahanol. Mae rhywbeth i bawb, o rygbi, tenis i saethyddiaeth a syrffio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych i weld yr hyn sydd gan Chwaraeon Abertawe i’w gynnig.
Wrth ymuno â thîm chwaraeon rydych yn symud ond mae hefyd yn gyfle perffaith i gwrdd â phobl newydd y tu allan i’ch cwrs a’ch neuadd breswyl. Felly a fyddwch chi’n ymuno â’r fyddin werdd a gwyn?
Mynd i’r awyr agored
Rydym ni mor ffodus i gael byw yn Abertawe gan ein bod yn swatio mewn harddwch naturiol. Beth am fynd ar y bws ac archwilio Penrhyn Gŵyr, neu fynd i lawr i’r Bae i nofio, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi ar gyfer pob tywydd!
Beth am fynd am dro i Langland (neidio ar y bws y tu allan i Dŷ Fulton ar Gampws Parc Singleton) a cherdded yr arfordir i Caswell. Mae’n cymryd tua hanner awr y naill ffordd ac mae’r golygfeydd yn odidog, ac mae siopau coffi’n aros amdanoch ar y diwedd!
Dod yn aelod o’r gampfa
Mae gan Brifysgol Abertawe ddwy gampfa ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe a Champws y Bae, felly mae un bob amser gerllaw. Pris aelodaeth yw cyn lleied â £10 y mis ac rydym yn cynnig ystod o opsiynau sy’n addas i bawb.
Beth am roi cynnig ar ddosbarthiadau Evolve hefyd? Mae hon yn ffordd berffaith i sicrhau eich bod yn cymysgu eich sesiynau ymarfer corff yn ogystal â datblygu bob wythnos. Mae’r ystod o ddosbarthiadau’n cynnwys popeth o gryfder i gardio i sesiynau cyfannol.
Cynyddu eich stepiau
Beth am arbed cost tacsi a dechreuwch gerdded! Dyma ffordd wych i gadw’n actif yn ogystal ag arbed arian hefyd. Rhowch eich hoffi’ch bodlediad ymlaen a cherddwch o’ch neuadd breswyl i’ch darlith neu os ydych yn treulio’r diwrnod yn y llyfrgell, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd am dro yn ystod eich seibiannau.
Diet cytbwys
Mae’n hawdd mynd i arferion drwg o gael pryd ar glud a bwyta allan, yn enwedig pan fydd eich amserlen yn prysuro. Ceisiwch goginio gartref pan rydych yn gallu a chynnwys ffrwythau a llysiau gwahanol i gyrraedd y nod o 5 y dydd. Un o’n hoff brydau ar ôl diwrnod prysur yw troffrio. Mae’n gyflym ac yn hawdd ei goginio, rydym yn taflu llysiau gwahanol ynghyd gyda ffynhonnell brotein megis gorgimychiaid neu gyw iâr, a’i weini gyda nwdls neu reis…perffaith!