Dewisa’r hyn rwyt ti’n ei fwynhau

Dechreua drwy archwilio mathau gwahanol o symudiadau i weld beth sy’n gwneud i ti deimlo’n llawn egni ac yn hapus. Rho gynnig ar bethau newydd nes dy fod ti’n dod o hyd i’r hyn sy’n addas i ti.

Dechreua gyda phethau bach

Gall hyd yn oed 10-15 munud o symud wneud gwahaniaeth i sut rwyt ti’n teimlo. Cynydda hyd dy sesiwn ymarfer corff yn raddol wrth i ti ddod yn fwy cyfforddus gyda dy drefn reolaidd.

Gwrandawa ar dy gorff

Cymer seibiant pan fydd ei angen arnat ti a gwna ymdrech fawr pan fyddi di’n teimlo llawn egni!

Canolbwyntia ar sut rwyt ti’n teimlo

Paid â phoeni am rifau a phwysedd allanol. Yn hytrach, dylet ti ganolbwyntio ar sut mae symudiad yn gwneud i ti deimlo yn ystod dy sesiwn ymarfer corff ac ar ôl hynny.