1. Offer o’r radd flaenaf gan gynnwys: Mae ein campfeydd yn cynnig y dechnoleg ffitrwydd ddiweddaraf i droi eich sesiwn o un dda i un ragorol.
  2. Mynediad i Bwll Cenedlaethol Cymru: Nofio mewn pwll maint Olympaidd 50m. Yn addas ar gyfer safonau cystadlu rhyngwladol, mae’r pwll yn cynnig chwe lôn ar gyfer hyfforddi, nofio hamddenol a dosbarthiadau acwa. 
  3. Dosbarthiadau ffitrwydd amrywiol: O ioga i droelli, rydym yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd i ddiwallu eich anghenion.
  4. Cymorth arbenigol: Mae hyfforddwyr cymwysedig ar gael am arweiniad a chyngor bob amser.
  5. Opsiynau aelodaeth hyblyg: Cynlluniau fforddiadwy ar gyfer myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe ac aelodau’r cyhoedd.
  6. Dau leoliad yn Abertawe: Mae cyfleusterau ar gael ar Lôn Sgeti a Champws y Bae ar hyd Ffordd Fabian.
  7. Trac Athletau Awyr Agored a Dan Do: Rydym yn cynnig traciau athletau awyr agored a dan do i gefnogi eich hyfforddiant ym mhob tywydd.  Os ydych yn wibiwr, yn rhedwr pellter neu’n fabolgampwr maes, mae’r trac yn cynnig arwyneb o safon broffesiynol am y perfformiad gorau.
  8. Cyfleusterau Chwaraeon Tîm: Gallwch chwarae pêl-droed, rygbi neu hoci ar feysydd o safon, gan gynnwys ein maes 3G newydd sbon gyda llifoleuadau – gan ei gwneud hi’n haws hyfforddi yn ystod misoedd y gaeaf.
  9. Teimlad Cymunedol:  Dewch i fod yn rhan o gymuned ffitrwydd gyfeillgar a chroesawgar. Does dim ots beth yw eich lefel ffitrwydd, mae croeso i bawb ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe.
  10. Bod yn iachach: Mae ymarfer corff yn cryfhau  eich system gardiofasgwlaidd, yn gostwng pwysedd gwaed, yn gwella hyblygrwydd ac yn hyrwyddo ffyrdd iach o reoli pwysau . Mae hefyd yn gwella eich iechyd meddwl cyffredinol.

Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn rhoi mynediad i chi i ystod o gyfleusterau, cymuned gefnogol ac opsiynau aelodaeth hyblyg i gyflawni eich nodau ffitrwydd. Os ydych yn ddechreuwr neu’n athletwr profiadol, dyma’r lle perffaith i chi gyflawni eich nodau ffitrwydd.