Bydd haf llawn parachwaraeon yn dychwelyd i Abertawe yn 2024 gyda Gŵyl Parachwaraeon eleni! Un o’r diwrnodau pwysicaf i ni ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe yw dydd Llun 8 Gorffennaf.

Bydd dros 20 o gampau gwahanol yn cael eu cyflwyno gan glybiau insport lleol a chyrff llywodraethu cenedlaethol o dan gyfarwyddyd hyfforddwyr cymwys. Caiff pobl o bob oedran a gallu roi cynnig ar y campau hyn am ddim ar y Trac Dan Do.

Edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiad cyffrous arall sy’n darparu cyfleoedd chwaraeon cynhwysol i oedolion a phobl ifanc anabl ledled Cymru!