Gall hyn fod yn heriol, ond mae’n werth yr ymdrech. Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i sefydlu trefn ymarfer corff y gallwch lynu wrthi:
- Pennwch nodau cyraeddadwy
Dechreuwch drwy bennu nodau bach a chyraeddadwy a fydd yn eich helpu i adeiladu momentwm. Er enghraifft, ceisiwch ymarfer corff am 30 munud y dydd, deirgwaith yr wythnos.
- Trefnwch eich sesiynau ymarfer corff
Ceisiwch drin eich sesiynau ymarfer corff fel apwyntiadau a’u trefnu nhw ymlaen llaw. Bydd hyn yn eich helpu i wneud ymarfer corff yn flaenoriaeth ac yn sicrhau bod gennych amser ar ei gyfer yn eich amserlen brysur.
- Dewch o hyd i ffrind i ymarfer corff gydag ef
Mae cael cwmni i ymarfer corff yn gallu eich ysgogi a’ch gwneud yn atebol. Hefyd, mae’n llawer mwy o hwyl ymarfer corff gyda rhywun arall! Mae gennym ddiwylliant ymarfer corff cadarnhaol yn ein holl ddosbarthiadau ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ac mae croeso cynnes i bawb, a byddwch chi’n teimlo’n hynod gartrefol.
- Mae amrywiaeth yn bwysig
Gall gwneud yr un ymarfer corff bob dydd fod yn ddiflas, felly rhowch gynnig ar bethau gwahanol. Dylech geisio cynnwys mathau gwahanol o ymarfer corff, megis hyfforddiant cryfder, cardio a ioga (gallwch wneud hyn oll ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe!) i gadw pethau’n ddiddorol i chi.
- Dathlu eich cynnydd
Dylech ddathlu eich cynnydd ar hyd y ffordd. Boed drwy roi trît bach i chi eich hun fel prynu dillad newydd o un o’ch hoff fasnachwyr neu gydnabod eich gwaith caled, gall cydnabod eich cyflawniadau gadw eich ysgogiad.
Cofiwch, mae meithrin arfer yn cymryd amser ac ymdrech, ond gyda dyfalbarhad ac ymroddiad, gallwch gynnwys ymarfer corff fel rhan o’ch trefn reolaidd.