Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn cyflwyno system newydd ar gyfer parcio ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe (cyfleusterau Ffordd Sgeti). Rydym wedi gosod peiriannau newydd a ddylai wneud talu am barcio yn haws ac yn fwy cyfleus i’n holl gwsmeriaid. Mae’r peiriant terfynol a fydd yn galluogi aelodau i brynu tocynnau ar gyfradd ostyngol yn cael ei osod ddydd Llun 19 Rhagfyra bydd y camerâu ANPR hefyd yn mynd yn fyw.
Edrychwch ar yr opsiynau newydd isod:
- Talu ac arddangos – yn unol â’ch trefn arferol, naill ai defnyddiwch arian parod neu gerdyn wrth y peiriannau ac arddangoswch eich tocyn ar banel deialu eich car. Bydd peiriannau yn y maes parcio yn ogystal ag un yn y dderbynfa, felly ni fydd yn rhaid i chi aros mewn ciw yn y glaw. Bydd y prisiau’n £2.00 am hyd at 2 awr a £4.00 am hyd at 4 awr, neu os ydych yn aelod o Barc Chwaraeon Bae Abertawe bydd modd i chi gael cyfraddau gostyngol drwy sganio’ch cerdyn aelodaeth wrth y peiriant, bydd y prisiau’n 50c am hyd at 2 awr a £1.00 am hyd at 4 awr. Mae parcio trwy’r dydd yn £6.00
- I gael y pris gostyngol am fod yn aelod o Barc Chwaraeon Bae Abertawe (gan gynnwys Talu Wrth Fynd) yna mae’n rhaid i chi gael cerdyn aelodaeth Parc Chwaraeon Bae Abertawe a defnyddio’r peiriant wrth fynedfa’r dderbynfa wedyn.
- Talu gyda’r ap Ring Go – mae hyn yn ddelfrydol os nad ydych chi’n hoffi cario arian parod neu ddod â’ch waled pan fyddwch chi’n dod i hyfforddi. Lawr lwythwch yr ap a thalu gyda’ch ffôn. Bydd prynu drwy’r ap yr un pris â thalu wrth y peiriant felly £2.00 am hyd at 2 awr a £4.00 am hyd at 4 awr. £6.00 trwy’r dydd.
- Opsiwn Debyd Uniongyrchol – a ydych eisoes yn talu’n fisol i ddefnyddio ein cyfleusterau? Beth am ychwanegu’r opsiwn maes parcio ar eich debyd uniongyrchol. Dyma’r gwerth gorau am arian gan mai dim ond £5 am y mis ydyw! Mae hyn ar gyfer nifer anghyfyngedig o ymweliadau ond gallwch barcio am 3 awr ac yna dim dychwelyd am 4 awr.
- Talu am y Flwyddyn – Gallwch hefyd achub y blaen a thalu ymlaen llaw am y flwyddyn. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi feddwl am barcio car am 12 mis arall, sy’n rhoi tawelwch meddwl i chi! Bydd hyn yn costio £60. Mae hyn ar gyfer nifer anghyfyngedig o ymweliadau ond gallwch barcio am 3 awr ac yna dim dychwelyd am 4 awr.
Os ydych chi’n bwriadu dewis yr opsiwn misol neu’r taliad blynyddol, ewch i’r dderbynfa i ddechrau’r broses (mae angen i chi wneud hyn yn bersonol fel y gallwn gael rhif cofrestru eich car i sicrhau bod y camerâu yn eich adnabod)!
A ydych yn hyfforddi ar Gampws y Bae ac angen maes parcio? Does dim byd wedi newid yno! Parhewch i barcio yn y prif faes parcio a gwnewch yn siŵr eich bod wedi arddangos eich tocyn (neu drwydded os ydych yn fyfyriwr neu’n aelod o staff). Cofiwch fod y 6 rhes gyntaf yn cael eu cadw ar gyfer deiliaid trwydded yn unig!
Os ydych yn ansicr neu os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â’r tîm ar sportspark@swansea.ac.uk neu ffoniwch 01792 513513. Edrychwn ymlaen at eich gweld ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe yn fuan!