Gyda chyfleusterau campfa a chwaraeon ardderchog, byddwn yn helpu pob aelod i gymryd eich iechyd a’ch ffitrwydd o ddifrif beth bynnag fo’ch gallu!
Felly, os ydych fyth yn gofyn i’ch hun ‘Ble mae’r campfeydd agosaf ataf i?’ – mae’n debyg bod yr ateb yn ‘agosach nag y tybiwch!’
Wedi’i leoli ger Campws Parc Singleton Prifysgol Abertawe, mae gan Barc Chwaraeon Bae Abertawe gyfleusterau hyfforddi ar gyfer pob lefel, gan gynnwys caeau awyr agored, trac rhedeg, canolfan athletau dan do, campfa, cyrtiau raced, a phwll nofio 50m.
Tra bo gan Gampws Bae Prifysgol Abertawe gaeau awyr agored ar hyd y traeth a chyfleusterau dan do ar gyfer hyfforddiant pwysau, cardio a dosbarthiadau. Y Neuadd Chwaraeon yw’r lle perffaith i gymryd rhan mewn badminton, saethyddiaeth neu bêl-fasged.
Gweld Ein Cyfleusterau
Eisiau gweld ein cyfleusterau? Archebwch daith heddiw!