Mae angen hyfforddiant lefel uchaf ar gystadleuaeth lefel uchaf.
Dyna lle mae’r Ganolfan Athletau a Hoci yn berthnasol, gyda’n staff gwych a’n cyfleusterau hyfforddi i’ch helpu i’ch cael i’r cyflwr gorau.
Perl ein rhaglen athletau yw’r trac athletau awyr agored, lle mae Harriers Abertawe a chlybiau rhedeg eraill Abertawe yn hyfforddi ac rydym hefyd yn cynnig caeau o’r radd flaenaf ac ardal hyfforddi awyr agored.
Gweler isod am ragor o fanylion am ein cyfleusterau.
- Trac Athletau Awyr Agored – Ardystiad TrackMark
Trac Athletau Awyr Agored 8 lôn gyda:
- Naid Boyn
- Naid Uchel
- Dau Bwll Naid Hir/Naid Driphlyd Allanol
- Caets taflu
- Eisteddle i Wylwyr
Mae sesiynau cyhoeddus ar gael drwy’r ap neu ar-lein. Er mwyn trefnu sesiwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn aelod o Barc Chwaraeon Bae Abertawe neu fod gennych aelodaeth talu wrth fynd.
Cymuned – £3.50
Myfyrwyr Prifysgol Abertawe £2.20
Ar gael i’w logi’n breifat ar gais. Cysylltwch â’r tîm yma.
- Trac athletau dan do
6 lôn sbrint syth 60m dan do gyda:
- Naid Bolyn
- Naid Uchel
- Pwll Naid Hir/Naid Driphlyg
- Netiau Taflu
- Net Gwaywffon
Mae sesiynau cyhoeddus ar gael drwy’r ap neu ar-lein. Er mwyn trefnu sesiwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn aelod o Barc Chwaraeon Bae Abertawe neu fod gennych aelodaeth talu wrth fynd.
Cymuned – £3.50
Myfyrwyr Prifysgol Abertawe £2.20
Ar gael i’w logi’n breifat ar gais. Cysylltwch â’r tîm yma.
- Caeau Hoci
2 gae hoci dal dŵr FIH a gymeradwywyd yn fyd-eang ar gael i’w llogi fel cae llawn neu hanner cae.
Myfyiwr Prifysgol Abertawe Consesiwn Cymned / Cyhoeddus Cyffredinol Cae Llawn £46 £60 £83 Hanner cae £23 £30 £41.50 Ar gael i’w logi’n breifat ar gais. Cysylltwch â’r tîm yma.
- Cyfeiriad
Canolfan Athletau a Hoci
Parc Chwaraeon Bae Abertawe
Lôn Fferm Cwm
Sgeti
Abertawe
SA2 9AU
I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch a’n tim defnyddiol yma.